Tŷ Hastings

 

Hastings House

Llys Fitzalan

 

Fitzalan Court

Caerdydd

 

Cardiff

CF24 0BL

 

CF24 0BL

 

 

 

 

E-bost:

 

E-mail:

cffdl.cymru@llyw.cymru

( (029) 2046 4819

ldbc.wales@gov.wales

www.cffd.llyw.cymru

Ffacs/Fax (029) 2046 4823

www.ldbc.gov.wales


Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

  CF99 1NA

                                                                                                   9 Tachwedd 2018


 

           

Ysgrifennaf ar ran Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i gyfrannu at ymgynghoriad y Pwyllgor i gynorthwyo â’i ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol, polisi a chyd-destun ehangach o gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Er ei greu yn wreiddiol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1974, mae’r Comisiwn wedi cefnogi’r Gymraeg drwy sicrhau bod ei ddogfennau cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.  Dros y blynyddoedd, mae integreiddio ystyriaeth o’r Gymraeg i waith y Comisiwn wedi cynyddu, yn enwedig ar ôl cyflwyno Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf y Comisiwn ym 1998.

 

Pan gyhoeddwyd y rhestr lawn o Safonau’r Gymraeg o ganlyniad i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, cododd y Comisiwn bryderon ynghylch goblygiadau cymhwyso’r holl safonau i’r sefydliad o ran adnoddau.  Roedd y Comisiwn yn falch, felly, fod y safonau penodol a gymhwysodd Comisiynydd y Gymraeg i’r Comisiwn yn ystyried maint a chylch gwaith y sefydliad.  Er enghraifft, ni chafodd y safonau yn ymwneud â hyrwyddo’r Gymraeg eu cymhwyso i’r Comisiwn.

 

Nid oedd y Comisiwn yn y gyfran gyntaf o gyrff i gymhwyso’r safonau, ac fe wnaeth dysgu o’u profiadau alluogi’r Comisiwn i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn a fyddai’n ofynnol.  Golygodd hynny, a’r ethos hanesyddol o fewn y Comisiwn mewn perthynas â’r Gymraeg, fod y Comisiwn mewn sefyllfa gadarnach o lawer i fodloni’r safonau gofynnol nag a allent fod fel arall.

 

Er bod angen rhywfaint o waith a chost ychwanegol i sefydlu bod y polisïau a’r gweithdrefnau priodol ar gyfer gweithredu’r safonau ar waith, cadwyd y llwyth gwaith a’r costau o fewn cyllideb y Comisiwn.  Mae’r llwyth gwaith a’r costau dilynol yn sgil cynnal y safonau wedi bod yn fach hyd yma.

 

Yr unig anhawster y mae’r Comisiwn wedi’i gael yw penodi niferoedd digonol o staff o fewn yr Ysgrifenyddiaeth â gallu yn y Gymraeg.  A hyn er gwaethaf ein hymdrechion gorau i ddenu ymgeiswyr â’r sgiliau priodol a darparu hyfforddiant yn y Gymraeg i aelodau staff presennol.  Mae’r prinder sgiliau Cymraeg hwn yn y swyddfa wedi bod yn her ar adegau ac mae’n golygu bod risg barhaus i ymdrechion y Comisiwn i fodloni ei Safonau Cymraeg.

 

O ran barnu pa mor effeithiol fu’r ddeddfwriaeth ar safonau o ran gwella a chynyddu mynediad at wasanaethau Cymraeg o safbwynt y Comisiwn, mae’n anodd ei fesur.  Yn sicr, mae’r Comisiwn wedi gwneud darpariaethau ychwanegol o ganlyniad i gymhwyso’r safonau, ond ein rhanddeiliaid a Chomisiynydd y Gymraeg sydd i farnu pa mor effeithiol fu’r rhain.  Mae cael safonau clir i asesu yn eu herbyn yn ei gwneud hi’n haws i randdeiliaid ddwyn y Comisiwn i gyfrif, ac os oes angen, gwneud cwyn briodol.

 

Roedd y Comisiwn yn bryderus ar y cychwyn y byddai’r broses ar gyfer pennu dirwyon am beidio â bodloni safonau a bennwyd yn y ddeddfwriaeth yn arwain at gyfundrefn o gosbi na fyddai’n un fuddiol i hyrwyddo’r Gymraeg.  Ym mhrofiad y Comisiwn, fodd bynnag, nid felly y bu hi, gan fod ymagwedd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg hyd yma wedi bod yn rhesymol, cymesur a chydweithredol tuag at gymhwyso’r Safonau. Mae’r Comisiwn o’r fan fod ymagwedd o’r fath yn fwy ffafriol i hyrwyddo’r Gymraeg na phe byddai cyfundrefn ‘enwi a chodi cywilydd’ uniongyrchol ar waith.

 

Ar ran y Comisiwn, hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am y cyfle hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.

 

 

Yr eiddoch yn gywir

 

 

 

 

Steve Halsall

Prif Weithredwr